|
Croeso i Berw’r Bae
Mae Berw’r Bae, sef gwyl celfyddydau trefol Canolfan Mileniwm Cymru yn ei drydedd blwyddyn erbyn hyn. Mae’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw, waeth beth fo’ch oed neu’ch gallu. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae miloedd wedi dod i ddigwyddiadau, wedi cymryd rhan mewn gweithdai ac wedi gweld perfformiadau byw.
Ond nid penwythnos blynyddol yr wyl yw diwedd y gân. Gallwch fod yn rhan o ddigwyddiadau a gynhelir gydol y flwyddyn. Dewch yn ôl i’r wefan yn fuan i gael rhagor o wybodaeth, ac i weld yr adran sy’n dangos popeth a ddigwyddodd yn ystod penwythnos yr wyl nôl ym mis Mawrth.
Digwyddiadau i Ddod
Mai
Gadewch i Slicky ddysgu sgiliau Bît-bocsio, Rap ac MC-io newydd ichi, neu beth am wella’r sgiliau sy’ gennych chi’n barod? Beth bynnag yw’ch lefel, bydd Slicky’n dangos holl synau gwahanol a thechnegau mwyaf ffresh cerddoriaeth hip hop ichi. Ac ar ôl y gweithdai, chi bia’r llwyfan pan gewch gyfle i ddangos eich ddoniau a’ch sgiliau newydd yng nghyntedd Glanfa Canolfan Mileniwm Cymru.
Sgiliau Rap ac MC-io
Dydd Iau 29 Mai
2pm – 4pm
Bît-bocsio
Dydd Gwener 30 Mai
2pm – 4pm
Hydref
Kno Love Dance Theatre | Fams & Cool Rules
Gwener 17 Hydref
Ar werth 30 Mai
Slam Jam
Sadwrn 18 Hydref – Gwybodaeth i ddilyn
Tachwedd
Ranel | Flhip Flhop
Iau 20 Tachwedd
Ar werth 30 Mai
E-restr
Mae digwyddiadau Berw'r Bae ymlaen drwy gydol y flwyddyn, cadwch lygad ar y newyddion diweddaraf drwy gofrestru ar ein rhestr ebost
|